Amy Kitcher a'r Democratiaid Rhyddfrydol Merthyr Tudful - Ar eich ochr chi.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i wneud cymunedau'r cymoedd yn ardaloedd gwell i fyw ac am ehangu'r cyfleoedd sydd ar gael i bob trigolion. Mae'r ymrwymiadau yma i'w weld yn ein maniffesto. Yn y maniffesto pwysleisir tyfiant economaidd, strydoedd diogel, amgylchedd glan a threfn lywodraethol agored, dibynadwy a gonest.

Amy Kitcher

Mae ein llefarydd Seneddol, Amy Kitcher, yn aelod o dîm y Democratiaid Rhyddfrydol sy'n sefyll i fyny dros Ferthyr Tudful.

Credai'r Democratiaid Rhyddfrydol Merthyr yn awdurdodi unigolion i ddod a'r newidiadau sydd eu hangen ar ein hardal. Credwn ni yn awdurdodi ein cymunedau trwy roi'r sgiliau a'r hyder iddyn nhw wneud y penderfyniadau dros eu hun.

Rydyn ni am ddiogelu ein gwasanaethau lleol megis trafnidiaeth gyhoeddus, Y Swyddfeydd Bost, ysgolion a'r ysbyty. Rydyn ni yn ymgyrchu i wneud Merthyr Tudful yn ardal lanach a mwy diogel i bawb. Rydyn ni yn gweithio'n galed i wneud y cyngor yn fwy tryloyw ac atebol i bobl leol.

Mae'n amlwg bod yr unig herwyr i Lafur ym Merthyr Tudful a Rhymni yw'r Democratiaid Rhyddfrydol. Ni yw'r unig grŵp gwleidyddol sy'n dadlau syniadau newydd, sydd â gweledigaeth clir a phositif ar gyfer ei hardal ni. Ni yw'r unig blaid sy'n gwrando arnoch chi.

Trwy weithio gyda'n gilydd, rydyn ni yn credu y gallwn ni creu Merthyr Tudful gwell. Pam wna wnewch chi ymuno a ni?

Cyflwynir Amy Kitcher

Y dewis gorau ar gyfer Aelod Seneddol (MP) nesaf

Daw Amy Kitcher yn wreiddiol o Ferthyr, bu fyw yn Nhwyncarmel a Thwynyrodyn. Mynychodd Ysgol Gynradd Gellideg, Faenor, Ysgol Gyfun Penderyn a chwplodd ei addysg uwchradd fel aelod o chweched dosbarth Ysgol Gyfun Cyfarthfa.

Amy Kitcher

Amy Kitcher, Standing up for Merthyr Tydfil and Rhymney

Astudiodd Ieithoedd Modern ym mhrifysgol Aston, cyn iddi fynychu Prifysgol Sussex i ennill MA yn astudiaethau rhyfel a heddwch cyfoes.

Wedi Prifysgol, dychwelodd yn ôl i Dde Cymru. Bu fyw yng Nghaerdydd am gyfnod cyn penderfynu gosod ei gwreiddiau ym Merthyr, ble mae hi heddiw yn byw gyda'i gwr a'i babi, Gwenllian. Fe fu Amy yn gweithio yn y masnachau Manwerthu a lletygarwch ac yng Nghynulliad Cymru. Heddiw, mae Amy yn gweithio i elusen camdriniaeth gartrefol genedlaethol.

Yn etholiadau Cynulliad Mai 2007, daeth Amy yn ail gan wthio Llafur i'w pleidlais leiaf am dros ganrif. Fe welir Amy fel yr unig gystadleuydd difrifol i Lafur yn etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni.

Ymgyrchodd Amy ym Merthyr am flynyddoedd ymhlith rhain fe weithio Amy gyda'r 'Parent and Residents Against Opencast Group' yn erbyn y cynlluniau cynhennus ar gyfer cloddio agored Ffos y Fran. Hefyd, arweiniodd Amy ymgyrchai ar faterion megis tagfeydd trafnidiaeth ganol y dref a pharcio.

Rhedodd Amy ymgyrch y Democratiaid Rhyddfrydol i achub gwasanaethau Ysbyty Tywysog Siarl, ac ar hyn o bryd mae Amy yn brwydro yn erbyn cynlluniau i adeiladu'r llosgydd mwyaf Prydain ym Merthyr Tudful.

Gyda'i angerdd am ymgyrchu, mae Amy yn achwr brwd ac mae ganddi ddiddordeb mawr yn hanes lleol.

Printed and hosted by Prater Raines Ltd, 98 Sandgate High Street, Folkestone CT20 3BY.
Published and promoted by Amy Kitcher - a Voice for our Valleys, 24 Poplar Terrace, Pentrebach, Merthyr Tydfil, CF48 4BW.
The views expressed are those of the party, not of the service provider.